Cwestiynau a'n Cyffredin
Ers i ni gyflwyno Swyddogion Traffig ar ein rhwydwaith ym mis Chwefror 2010, rydym wedi derbyn nifer o ymholiadau oddi wrth gwsmeriaid yn gofyn am rolau a chyfrifoldebau ein Swyddogion Traffig, am y cerbydau maent yn eu defnyddio a'r offer maent yn eu cludo.
- Beth yw rolau a chyfrifoldebau Swyddogion Traffig ?
- Pa bwerau sydd gan Swyddogion Traffig dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004?
- Beth yw diben rhoi'r cyfrifoldebau hyn i Swyddogion Traffig?
- Beth yw rôl yr heddlu traffig nawr bod Swyddogion Traffig wedi mabwysiadu llawer o'u dyletswyddau?
- A yw'r heddlu'n mynd i safle damwain neu a ydynt yn aros i'r Swyddogion Traffig ddweud wrthynt am fynd?
- A all Swyddogion Traffig arestio pobl?
- Pa liw yw goleuadau a lifrai Cerbydau Swyddogion Traffig? Beth yw'r rhesymau am hyn?
- Pam mae Cerbydau Swyddogion Traffig yn edrych mor debyg i gerbydau heddlu ac yn defnyddio'r un marciau gweladwy iawn â rhai heddluoedd?
- Pam ydych yn gweld Cerbydau Swyddogion Traffig wedi parcio ar drosbontydd neu blatfformau arsylwi?
- Faint o Gerbydau Swyddogion Traffig sydd yn y fflyd? (Chwefror 2010)
- Â sawl damwain mae Swyddogion Traffig yn ymdrin ar eu llwybrau patrôl bob wythnos?
- Beth yw rôl Canolfan Rheoli Traffig De Cymru ?
- Sut mae Swyddogion Traffig yn gweithio gyda'r gwasanaethau brys mewn damwain ar y draffordd?
- Beth yw cau heol fesul cam dros dro?
- Pa wiriadau mae Swyddogion Traffig yn eu cynnal ar eu cerbydau Cynulliad Cymru cyn mynd allan ar batrôl?
- Pam ydych yn gweld Swyddogion Traffig ar y llain galed wedi parcio y tu ôl i gerbydau sydd wedi torri i lawr?
- Pam mae Cerbydau Swyddogion Traffig yn parcio ar ongl tuag at lôn gerbydau'r draffordd ac nid yn gyfochrog â hi.
- Pam mae Swyddogion Traffig yn gosod goleuadau a chonau yng ngolau dydd y tu ôl i'w cerbyd pan fyddant wedi parcio ar y llain galed?
- Ar ba gyflymder mae Swyddogion Traffig yn patrolio'r draffordd a'r cefnffyrdd?
Q) Beth yw rolau a chyfrifoldebau Swyddogion Traffig?
Mae Swyddogion Traffig yn gyfrifol am:
- reoli damweiniau, ac eithrio pan fydd rhywun wedi marw, wedi'i anafu neu pan fyddant yn cynnwys gweithgarwch troseddol posibl
- gosod arwyddion a goleuadau ac ateb ffonau ymyl heol brys
- trefnu symud cerbydau sydd wedi'u difrodi/gadael neu sydd wedi torri i lawr mewn partneriaeth â'r heddlu
- symud malurion a rhwystrau eraill o'r lôn gerbydau
Mae rôl Swyddog Traffig yn cynnwys:
- rheoli damweiniau pan na fydd rhywun wedi marw, wedi'i anafu ac nad ydynt yn cynnwys gweithgarwch troseddol posibl
- cefnogi'r heddlu pan fyddant yn rheoli damweiniau, yn enwedig pan fyddant yn rheoli traffig
- patrolau gweladwy iawn i gysuro'r cyhoedd
- ymdrin â damweiniau sy'n cynnwys cerbydau sydd wedi'u difrodi/gadael neu sydd wedi torri i lawr
- cau heolydd fesul cam dros dro i ddal traffig yn ôl er mwyn galluogi symud malurion, rheoli traffig dros dro a dibenion eraill
- cau heolydd dros dro
- clirio malurion, anifeiliaid ac eiddo y deuir o hyd iddo ar y rhwydwaith
- adnabod diffygion a gwelliannau posibl i'r rhwydwaith
- monitro gwaith heol
- trefniadau cynllunio ar gyfer digwyddiadau arbennig arfaethedig
- addysgu defnyddwyr heolydd
Q) Pa bwerau sydd gan Swyddogion Traffig dan Ddeddf Rheoli Traffig 2004?
Mae gan Swyddogion Traffig bwerau i:
- Stopio traffig a chau heolydd, lonydd a lonydd cerbydau;
- Cyfarwyddo a dargyfeirio traffig;
- Gosod a gweithredu arwyddion traffig;
- Rheoli traffig ac arolygon traffig.
Mae methu cydymffurfio â chyfarwyddiadau neu arwydd Swyddog Traffig yn drosedd a allai arwain at:
- ddirwy o hyd at £1,000
- ardystiad trwydded yrru; neu
- waharddiad gyrru.
Mae ymosod ar Swyddog Traffig neu rwystro un neu ffugio bod yn un yn fwriadol yn drosedd a gallai arwain at ddirwy o hyd at £5,000 neu gyfnod yn y carchar.
Q) Beth yw diben rhoi'r cyfrifoldebau hyn i Swyddogion Traffig?
Mae Llywodraeth Cynulliad Cymru wedi dechrau'r gwasanaeth treial hwn i wella teithiau gyrwyr, gwneud heolydd yn fwy diogel a galluogi'r heddlu i ganolbwyntio ar fynd i'r afael â throseddau. Mae'r buddion yn cynnwys:
- llai o dagfeydd sy'n ymwneud â damweiniau
- amseroedd teithio mwy dibynadwy
- llai o ddamweiniau eilaidd - damweiniau sy'n digwydd ger damwain arall neu waith heol
- rhyddhau amser yr heddlu i ganolbwyntio ar weithgarwch craidd, megis mynd i'r afael â throseddau a gorfodi'r gyfraith.
- Gwneud y rhwydwaith heolydd yn fwy diogel
Q) Beth yw rôl yr heddlu traffig nawr bod Swyddogion Traffig wedi mabwysiadu llawer o'u dyletswyddau?
Gyda Gwasanaeth Swyddogion Traffig cael y cyfrifoldeb am dasgau traffordd arferol, bydd yr heddlu'n gallu treulio mwy o'u hamser yn canolbwyntio ar eu blaenoriaeth, sef gorfodi'r gyfraith a mynd i'r afael â throseddau.
Q) A yw'r heddlu'n mynd i safle damwain neu a ydynt yn aros i'r Swyddogion Traffig ddweud wrthynt am fynd?
Mae'r penderfyniad ynghylch pwy sy'n mynd i safle damwain yn dibynnu ar ba adnodd sydd agosaf at y safle. Mae goleuadau ambr gan Gerbydau Swyddogion Traffig ac ni chaniateir iddynt fynd yn gyflymach na'r cyfyngiad cyflymder. Caiff pob damwain ei hasesu a chaiff yr adnoddau mwyaf priodol eu hanfon i'r safle. Mater i bob awdurdod heddlu yw penderfynu sut maent yn defnyddio'u hadnoddau.
Q) A all Swyddogion Traffig Cynulliad Cymru arestio pobl?
Nid oes pwerau gan Swyddogion Traffig i arestio pobl. Fodd bynnag, mae peidio â chydymffurfio â'u gofynion yn drosedd.
Mae methu â chydymffurfio â chyfarwyddiadau neu arwydd Swyddog Traffig drosedd a allai arwain at:
- ddirwy o hyd at £1,000
- ardystiad trwydded yrru; neu
- waharddiad gyrru.
Q) Pa liw yw goleuadau a lifrai Cerbydau Swyddogion Traffig? Beth yw'r rhesymau am hyn?
Mae goleuadau fflachio ambr a gwyn ar y cerbydau a rhai coch ar y cefn. Mae'n hawdd eu hadnabod am fod lifrai melyn a du arnynt.
Mae'n rhaid cofio nad gwasanaeth brys yw'r Gwasanaeth Swyddogion Traffig.
Ni chaniateir i Swyddogion Traffig yrru'n gyflymach na'r cyfyngiad cyflymder wrth ymateb i ddamwain. Fodd bynnag, byddem yn gofyn i yrwyr adael iddynt fynd heibio os ydynt yn eu gweld ar y briffordd am eu bod efallai'n mynd i safle damwain sy'n achosi tagfeydd.
Q) Pam mae Cerbydau Swyddogion Traffig yn edrych mor debyg i gerbydau heddlu ac yn defnyddio'r un marciau gweladwy iawn â rhai heddluoedd?
O ystyried natur eu rôl a'r amgylchedd mae Swyddogion Traffig yn gweithio ynddo, mae'n bwysig sicrhau diogelwch staff a diogelwch y cyhoedd sy'n teithio.
Mae Swyddogion Traffig yn ymdrin ag amrywiaeth o ddamweiniau, y mae rhai ohonynt yn cynnwys pobl sydd wedi'u hanafu ac efallai mai ni fydd y cyntaf ar y safle a bydd angen i ni wneud y safle'n ddiogel cyn i'r gwasanaethau brys gyrraedd ac felly mae'n hanfodol bod yn weladwy iawn.
Q) Pam ydych yn gweld Cerbydau Swyddogion Traffig wedi parcio ar drosbontydd neu blatfformau arsylwi?
Fel yr heddlu a VOSA, caiff Cerbydau Swyddogion Traffig ddefnyddio platfformau arsylwi. Mae defnyddio'r rhan hon o isadeiledd priffyrdd neu leoliadau strategol eraill, megis trosbontydd yn galluogi ein timau i roi presenoldeb corfforol sy'n gwella cysur i'r cyhoedd.
Yn bwysicach, mae'n galluogi ein patrolau i fod yn y man lle maent yn fwyaf tebygol o gael effaith gadarnhaol ar ymdrin â damweiniau.
Q) Faint o Gerbydau Swyddogion Traffig sydd yn y fflyd? (Chwefror 2010)
Mae 3 cherbyd yn y fflyd bresennol o Gerbydau Swyddogion Traffig. Cynhaliwyd treial ar dri model gwahanol o gerbyd. Y rhain oedd:
- Land Rover Discovery
- Volkswagen Transporter
- Mitsubishi L200
Q) Â sawl damwain mae Swyddogion Traffig yn ymdrin ar eu llwybrau patrôl bob wythnos?
Mae Swyddogion Traffig yn ymdrin â chyfartaledd o 120 damwain yr wythnos.
Q) Beth yw rôl Canolfan Rheoli Traffig De Cymru ?
Mae CRhTDC oddi ar gyffordd 32 yr M4, Coryton, yn cael ei gweithredu 24 awr y dydd, bob dydd o'r flwyddyn, yn casglu gwybodaeth am gyflyrau heol a thraffig ar hyd traffordd a chefnffyrdd Cymru.
Mae'n ganolfan wybodaeth i'r rhwydwaith traffordd a chefnffyrdd, yn casglu gwybodaeth amser real, yn casglu gwybodaeth gan synwyryddion heol a chamerâu teledu cylch cyfyng yn ogystal ag adroddiadau gan Swyddogion Traffig, heddluoedd, awdurdodau priffyrdd lleol, contractwyr a chanolfannau tywydd.
Yna, trefnir bod yr wybodaeth amser real ar gael i yrwyr sydd â dewis o sut maent yn cael mynediad iddi.
Gall gyrwyr fynd ar wefan Traffig Cymru neu ffonio'r gwasanaeth ffôn awtomataidd ar 0845 602 602 0. Mae'r wybodaeth hefyd ar gael trwy fwletinau traffig ar y radio a'r teledu.
Hefyd, rhoddir gwybodaeth am gyflyrau traffig trwy arwyddion electronig ymyl yr heol mewn lleoliadau allweddol ar y rhwydwaith traffordd a chefnffyrdd, gan roi'r cyfle i yrwyr deithio ar heol arall os oes problem o'u blaenau.
Q) Sut mae Swyddogion Traffig gweithio gyda'r gwasanaethau brys mewn damwain ar y draffordd?
Mae Swyddogion Traffig yn cynnal amrywiaeth o ddyletswyddau, o symud cerbydau sydd wedi'u niweidio/gadael i stopio a dargyfeirio traffig.
Maent hefyd yn sicrhau amgylchedd gwaith diogel ar y draffordd i'r gwasanaeth tân ac achub, yr heddlu a'r gwasanaeth ambiwlans ymgymryd â'u dyletswyddau'n effeithiol.
Os mai Swyddogion Traffig yw'r cyntaf i gyrraedd y safle neu os yw'r gwasanaethau brys wedi derbyn galwad o ffôn symudol, rydym yn gallu rhoi gwybodaeth gywir iddynt yn gyflym, gan gynnwys manylion pyst marcio.
Q) Beth yw cau heol fesul cam dros dro?
Cau heol fesul cam dros dro yw pan rydym yn defnyddio Cerbydau Swyddogion Traffig i arafu'r modurwyr dilynol yn raddol ac yna eu stopio dros dro i roi digon o amser i'r gwaith cynnal a chadw gael ei wneud, neu i falurion damwain gael eu clirio'n ddiogel.
Q) Pa wiriadau mae Swyddogion Traffig yn eu cynnal ar eu cerbydau Cynulliad Cymru cyn mynd allan ar batrôl?
Cyn mynd allan ar yr heol, ar ddechrau pob sifft, cynhelir gwiriad POWDER. Mae hyn yn cynnwys y canlynol:
Petrol - neu ddiesel yn ein hachos ni - oes digon o danwydd yn y cerbyd?
Olew - mae gwiriad cyflym bob amser yn ddoeth
Dwr - rydym yn gwirio'r oerydd a'r hylif golchi ac mae'n syniad da cludo rhywfaint o ddwr yfed hefyd.
Difrod - gwiriad gweledol cyflym o'r gwaith corff i sicrhau bod popeth 'yn iawn.
Trydan - a yw'r holl oleuadau a rheolyddion trydanol yn gweithio'n iawn? Mae'n arbennig o bwysig i Gerbydau Swyddogion Traffig, gyda'n goleuadau a'n harwyddion matrics ychwanegol.
Rwber - rydym yn gwirio'r teiars - nhw yw'r unig gyswllt sydd gan 'y cerbyd â'r heol ac maent yn hanfodol ar gyfer gyrru a stopio'n ddiogel.
Q) Pam ydych yn gweld Swyddogion Traffig ar y llain galed wedi parcio y tu ôl i gerbydau sydd wedi torri i lawr?
Mae Swyddogion Traffig newydd gymhwyso wedi'u cyfyngu i weithio ar y llain galed nes iddynt gwblhau cyfnod asesu'n llwyddiannus. Yn ystod yr amser hwn, byddant yn canolbwyntio ar gynnig cefnogaeth a chymorth i fodurwyr sydd wedi gorfod stopio ar y llain galed.
Ar ôl cwblhau camau cychwynnol eu hasesiad, byddant yn symud ymlaen i ymgymryd â thasgau yn y lôn gerbydau fyw, megis cau heol fesul cam dros dro, clirio damweiniau sy'n achosi tagfeydd a symud malurion peryglus a all achosi damweiniau.
Nid oes angen i ni fynd i safle pob cerbyd sydd wedi torri i lawr ac aros yno. Mae'n dibynnu ar yr adnoddau sydd ar gael, blaenoriaeth gwaith ac a oes angen cefnogaeth ar y gyrrwr, er enghraifft, am ei fod yn agored i niwed, am fod plant ifanc yn y car neu mae'r cerbyd ar ran o'r draffordd heb oleuadau.
Q) Pam mae Cerbydau Swyddogion Traffig yn parcio ar ongl tuag at lôn gerbydau'r draffordd ac nid yn gyfochrog â hi.
Yr enw ar y ffordd mae Cerbydau Swyddogion Traffig ar y llain galed tra'u bod ar safle damwain yw cyfeiriadedd cerbyd neu 'gwyro' ac yn gyffredinol mae tri opsiwn y gellir eu mabwysiadu. Y rhain yw:
- gwyro i mewn - dyma pan fydd blaen y cerbyd yn wynebu ymyl y ffordd
- gwyro allan - pan fydd blaen y cerbyd yn wynebu'r lôn gerbydau
- yn yr un llinell - pan fydd y cerbyd yn gyfochrog â'r lôn gerbydau.
Pan fyddant ar safle damwain, mae Swyddogion Traffig wedi'u hyfforddi i gynnal asesiad risg i bennu'r opsiwn gwyro mwyaf priodol i'w fabwysiadu er mwyn ymdrin â'r ddamwain.
Q) Pam mae Swyddogion Traffig yn gosod goleuadau a chonau yng ngolau dydd y tu ôl i'w cerbyd pan fyddant wedi parcio ar y llain galed?
Bydd Swyddogion Traffig yn gosod conau a goleuadau, os oes eu hangen, i wella gweladwyedd ein cerbydau ac i ddarparu man gwaith diogel a gwybodaeth glir i'r gyrwyr sy'n dod atynt. Hefyd, mae er mwyn osgoi cael ein bwrw gan gerbydau crwydrol yn llechfeddiannu ar y llain galed ac mae er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd a'n staff.
Q) Ar ba gyflymder mae Swyddogion Traffig yn patrolio'r draffordd a'r cefnffyrdd?
Mae Swyddogion Traffig yn patrolio ar gyflymder traffig yn lôn un ac ar draffyrdd tawelach, heb fynd yn gyflymach na 60mya. Ni chaniateir i Swyddogion Traffig dorri'r cyfyngiad cyflymder cenedlaethol.
Wrth gadw at yr arfer hwn, mae'n rhoi cydbwysedd rhwng peidio ag arafu traffig tra'n gallu gweld cerbyd sydd wedi torri i lawr ar y llain galed a stopio ein cerbyd yn ddiogel ar y pellter cywir, sef oddeutu 25 metr y tu ôl i gerbyd sydd wedi torri i lawr.

