Rôl Ein Stiwardiaid y Ffyrdd
Mae gan ein Stiwardiaid y Ffyrdd rôl bwysig iawn yng ngwaith cynnal a chadw’r rhwydwaith o ddydd i ddydd. Nhw yw’r pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer llawer o broblemau sydd angen sylw fel:
- Atgyweirio mewn Argyfwng
- Gwaith cynnal a chadw rheolaidd
- Digwyddiadau argyfwng
- Diffygion
- Ymchwilio i Gwynion
- Materion ynghylch Gorfodi
Mae’n siŵr mai gan ein Stiwardiaid y Ffyrdd mae’r wyneb cyhoeddus mwyaf gweladwy yn yr Asiantaeth. Gellir eu gweld o gwmpas yr ardal yn ddyddiol yn gwneud eu dyletswyddau ymarferol i reoli’r rhwydwaith.
Mae cerbydau wedi’u harwyddo’n briodol ganddynt a gellir eu gweld yn hawdd mewn gwisg wedi’i gynllunio’n bwrpasol.

Mae cynnig gwasanaeth mewn argyfwng y tu allan i oriau arferol yn rhan o’u rôl hefyd a byddant yn rhoi pob cefnogaeth angenrheidiol i sicrhau diogelwch ar y priffyrdd ar gyfer y defnyddwyr.

