Rheoli ac Ariannu'r Asiantaeth

Rheolir yr Asiantaeth o’i phencadlys yn y Courtyard, Parc Busnes
Llandarsi sydd oddi ar Gyffordd 43 yr M4. Caiff ei chefnogi gan
swyddfeydd gweithredu rhanbarthol yn San Clêr a Malpas (Casnewydd)
a staff sy’n gweithio o’r Ganolfan Rheoli Traffig yn Coryton
(Caerdydd)
Mae cyllideb flynyddol o tua £30 miliwn gan yr Asiantaeth ac
mae’n cyflawni ei gwaith trwy gytundebau lefel gwasanaeth (CLGau)
gyda darparwyr gwasanaeth awdurdodau lleol, ynghyd â chytundebau
fframwaith ar gyfer y sector preifat i weithredu rhaglenni o waith
cynnal a chadw strwythurol a garddwriaethol ar y priffyrdd.
Mae SWTRA yn paratoi rhaglen bum mlynedd o gynnal a chadw a
gwella ac adolygir a blaenoriaethir y rhaglen yn flynyddol. Ar ôl
gweld beth sydd angen ei wneud mewn blwyddyn benodol cyflwynir cais
i LlC ar gyfer y gweithiau. Wedyn dyrennir arian yn ôl cynlluniau a
flaenoriaethir fel y gall yr Asiantaeth gyflwyno rhaglen Cynnal y
Priffyrdd gwerth am arian ar ran y Llywodraeth Cymru.
Dolenni cysylltiedig